Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


171(v5)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Gwasanaethau Deintyddol - Gohiriwyd tan 11 Rhagfyr 2018

(0 munud)

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan y Prif Weinidog: Cytundeb Drafft ar Ymadawiad y DU â’r UE

(60 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol

(30 munud)

</AI5>

<AI6>

6       Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach

(30 munud)

</AI6>

<AI7>

7       Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Buddsoddi mewn Ymyrraeth Gynnar a Dulliau Traws-Lywodraeth i fynd i'r afael â Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc

(30 munud)

</AI7>

<AI8>

8       Dadl: Rheoliadau'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018

(60 munud)

NDM6867 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2018.  

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Datganiad ynghylch Rheoliadau Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018

</AI8>

<AI9>

9       Dadl: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru?

(60 munud)

NDM6866 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad 2017 Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi bod angen mynd ati ar frys i ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni’r targed a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o leihau allyriadau carbon 80 y cant, gan wneud y canlynol:

a) cyflwyno gwaith cynllunio systemau ynni cyflawn a rhanbarthol er mwyn cefnogi economi carbon isel;

b) cydnabod y posibiliadau sydd ynghlwm wrth wahanol dechnolegau cynhyrchu ynni, a hefyd yr angen am atebion clyfar i gydbwyso’r gwaith o gynhyrchu ynni â’r galw amdano;

c) cyflymu’r broses o ddatblygu ynni carbon isel, lle y mae’n fanteisiol i Gymru, gan gydnabod yr hinsawdd heriol presennol o ran buddsoddiad; a

d) datblygu ymhellach y grid yng Nghymru fel rhan o gynlluniau ar gyfer lleoliadau penodol.

Dogfennau Ategol

Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o gyflawni system ynni carbon isel.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd i ddarparu cymysgedd ynni cynaliadwy tymor hir yng Nghymru ac yn cymeradwyo sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch potensial trawsnewidiol y datblygiad seilwaith ynni mawr hwn i economi Gogledd Cymru.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cymorth cymunedol pan yn cynllunio prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ac yn gresynu at ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â datblygu Fferm Wynt Hendy nad yw'n parchu'r egwyddor bwysig hon ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn.

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli yr holl bwerau dros ynni i Gymru yn llawn.

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sefydlu Ynni Cymru i gyflymu'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru gyda ffocws cryf ar ynni cymunedol a pherchnogaeth y cyhoedd.

</AI9>

<AI10>

10    Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig

(30 munud)

</AI10>

<AI11>

11    Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>